picture
picture

Ffordd Abersoch, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, Gogledd Cymru, LL53 7UB.
Ffôn y Swyddfa 01758 740406 Ffacs: 01758 740495 e-bost: swyddfa@j-c-jones.co.uk             
Ffôn symudol: 07774 830 956 Ffôn symudol: 07970 445 958 Ffôn symudol: 07585 400142

picture

Ffurfiwyd Ymgymerwyr Adeiladwaith J&C Jones Cyf yn y nawdegau cynnar yn wreiddiol ac mae’r cwmni wedi’i  leoli yng nghadarnle hardd y Gymraeg ar Benrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru. Mae hwn yn gwmni adeiladu a datblygu sydd wedi ennill ei blwyf gan ddarparu gwasanaethau o safon ym mhob agwedd o adeiladu a pheirianneg sifil o’r dyluniad cychwynnol, y cynllunio a’r ymgynghori ag awdurdodau lleol hyd at yr adeiladu a’r trosglwyddo.

Mae ein tîm profiadol a medrus a gyflogir oll yn lleol, yn ymrwymo i gyflwyno dibynadwyedd ac ansawdd i’n cwsmeriaid i gyd, ni waeth pa mor fawr neu fach yw’r prosiect.

Os ydych chi ar gamau cynnar ystyried prosiect, boed yn addasiad neu’n estyniad neu’n adeilad pwrpasol newydd, gall ein tîm yn J&C Jones eich cynorthwyo o’r cychwyn gyda brasluniau amlinellol a chyllidebau ac wedyn ei symud ymlaen i’r camau nesaf o gael caniatadau a chymryd pwysau’r prosiect oddi arnoch hyd nes y’i trosglwyddir ichi. Felly, os byddwch yn ystyried prosiect, cysylltwch â ni i weld a fydd y gwasanaethau a gynigiwn yn gweddu i’ch anghenion.

Bookmark and Share

NHBC Constructionline ELECSA Gas Safe Register FENSA OFTEC LABC J & C JONES Home Page